Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 29 Tachwedd 2021
Amser:
14.00 -
16.08
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12490
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Luke Fletcher AS Joel James AS Buffy Williams AS |
Tystion: |
Ewan Hilton, Platfform Sophie Howe, Future Generations Commissioner Lydia Godden, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru James Radcliffe, Platfform Will Stronge, Autonomy |
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Sesiwn Dystiolaeth (Panel 1) – P-06-1224 Dylunio cynllun peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol 'Ymadawyr Gofal a Mwy'
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol; a Will Stronge, sefydliad Autonomy.
3 Sesiwn Dystiolaeth (Panel 2) – P-06-1224 Dylunio cynllun peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol 'Ymadawyr Gofal a Mwy'
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lydia Godden, WEN Cymru; Ewan Hilton, Platfform; a James Radcliffe, Platfform.
4 Deisebau newydd
4.1 P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru
Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad i’r Pwyllgor ynghylch ei gyfarfod gyda'r deisebwyr.
Cytunodd y Pwyllgor i wneud gwaith mwy manwl ar y ddeiseb dan sylw, gan ganolbwyntio ar safleoedd dŵr a ariennir yn gyhoeddus. Cytunodd yr Aelodau i wahodd tystion i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor, gan gynnwys Diogelwch Dŵr Cymru, y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau, Cyfoeth Naturiol Cymru, a theuluoedd eraill sydd wedi dioddef colled drasig debyg.
Diolchodd y Cadeirydd i aelodau’r teulu am y dewrder y maent wedi’i ddangos wrth fynd i'r afael â'r mater hwn, ac am roi o’u hamser i gwrdd ag ef.
4.2 P-06-1217 Agor canolfannau / clinigau meddygol un stop Covid Hir
Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am eglurhad pellach gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut mae gwasanaethau yng Nghymru yn diwallu canllawiau cyflym NICE ar reoli effeithiau tymor hir COVID-19, p'un a ydynt yn bwriadu cyflwyno clinigau COVID hir sy’n cael eu harwain yn feddygol, a sut y bydd y broses o rannu â gwledydd eraill a dysgu oddi wrthynt yn cael ei datblygu.
4.3 P-06-1218 Hysbysu pob person 18 oed sydd wedi derbyn gofal cymdeithasol fod ganddynt yr hawl i wneud cais am eu gwybodaeth bersonol
Nododd y Pwyllgor nad yw'r ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r alwad am ddyletswydd i hysbysu unigolion ynghylch eu hawl i gael mynediad i'w ffeiliau ar ôl iddynt droi'n 18 oed. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog i ofyn sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod pob person ifanc yn cael ei hysbysu ynghylch yr hawl hon, a beth y gellir ei wneud i godi ymwybyddiaeth.
4.4 P-06-1219 Dylid gosod cerflun coffa o Paul Robeson yn y Cymoedd
Nododd y Pwyllgor fod y Dirprwy Weinidog wedi egluro safbwynt Llywodraeth Cymru, a bod y deisebydd wedi derbyn yr eglurhad hwn. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.
Ynghyd â chau'r ddeiseb, gofynnodd y Pwyllgor i'r tîm clercio ddarparu gwybodaeth i’r deisebydd gan y gwasanaeth ymchwil, ynghylch gwneud cais am gyllid ar gyfer y cerflun. Yn ogystal, gofynnodd y Pwyllgor i’r Tîm Clercio ddymuno pob llwyddiant i’r deisebydd.
4.5 P-06-1221 Gwrthodwch gynlluniau ar gyfer Cynllun Solar Ffermwyr Gwynllwg
Llongyfarchodd y Pwyllgor y deisebydd a chefnogwyr y ddeiseb ar y canlyniad llwyddiannus a gafwyd, a chaeodd y ddeiseb.
4.6 P-06-1223 Paratoi cais i Gymru gystadlu yng Nghystadleuaeth yr Eurovision
Cytunodd y Pwyllgor, er gwaethaf y ffaith bod Cymru Greadigol wedi datblygu cynllun gweithredu ar gyfer cerddoriaeth fasnachol yng Nghymru, ei bod yn amlwg yn sgil ymateb Llywodraeth Cymru nad yw herio’r status quo ynghylch Cystadleuaeth yr Eurovision ar yr agenda. Cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.
5 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
5.1 P-06-1181 Mae treillio ar wely'r môr yn lladd ein bywyd gwyllt morol… Rhowch y gorau i chwalu'n moroedd!
Yn sgil y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud ar y mater hwn gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, a’r ffaith y bydd y materion y mae’r ddeiseb yn eu codi yn cael eu harchwilio mewn sesiwn dystiolaeth gyda rhanddeiliaid ym mis Rhagfyr, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.
5.2 P-05-1097 Dylid gwahardd cewyll adar hela
Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at Lywodraeth Cymru unwaith eto, ac am y tro olaf, i ofyn am ymatebion penodol i'r pryderon a'r cwestiynau a godwyd gan y deisebydd, ac i dynnu sylw at y Bil Adar Hela (Bridio Mewn Cewyll) sydd wedi cael ei gyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi.
5.3 P-06-1183 Gosod terfyn cyflymder 20 milltir yr awr ar gyfer 100 metr bob ochr i'r groesfan newydd i gerddwyr yng Nglan Conwy
Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad i’r Pwyllgor ynghylch ei ymweliad â’r safle.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyngor Conwy, gan anfon copi o’r ohebiaeth at y cyngor tref a chymuned lleol, i ofyn a fyddai modd ymweld â'r safle ac ystyried codi arwyddion wedi'u goleuo'n dda er mwyn arafu’r traffig a’i ostegu, neu gyflwyno mesurau gostegu traffig eraill sy’n briodol.
6 Papurau i'w nodi
Nodwyd y papur.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 8 y cyfarfod.
Derbyniwyd y cynnig.
8 Trafod y Sesiwn Dystiolaeth – P-06-1224 Dylunio cynllun peilot Incwm Sylfaenol Cyffredinol 'Ymadawyr Gofal a Mwy'
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.